Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Mehefin 2023
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.30)
Cyfarfod cyhoeddus (09.30-12.15)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau
(09.30)
2 Bioamrywiaeth a’r argyfwng natur – sesiwn dystiolaeth 1
(09.30-10.45) (Tudalennau 1 - 50)
Dr Jonathan Davies, Uwch Ecolegydd, Adfer Natur, Bannau Brycheiniog – yn cynrychioli’r Tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru
Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru - yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru
Chloe Wenman, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth (Cymru), y Gymdeithas Cadwraeth Forol - yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru
Dogfennau atodol:
Briff Ymchwil - Bioamrywiaeth
Papur - Dr Jonathan Davies, y Tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng
Nghymru (Saesneg yn unig)
Papur - Llwybrau i 2030, Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn
unig)
Papur - Bil sy'n gadarnhaol o ran natur, Cyswllt Amgylchedd Cymru
(Saesneg yn unig)
Egwyl (10.45-11.00)
3 Bioamrywiaeth a’r argyfwng natur – sesiwn dystiolaeth 2
(11.00-12.15) (Tudalennau 51 - 61)
Dr Katie Medcalf, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd - Environment Systems
Dr Tim Pagella, Darlithydd mewn Coedwigaeth - Prifysgol Bangor
Dr Richard Unsworth, Athro Cyswllt, Biowyddorau - Prifysgol Abertawe
Dogfennau atodol:
Papur - Dr Katie Medcalf, Environment Systems (Saesneg yn
unig)
Papur - Dr Tim Pagella, Prifysgol Bangor (Saesneg yn
unig)
4 Papurau i'w nodi
(12.15)
4.1 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
(Tudalennau 62 - 63)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
4.2 Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad blynyddol cyntaf y Pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru—2022-23
(Tudalen 64)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain at y Cadeirydd ynghylch y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru—2022-23 (Saesneg yn unig)
4.3 Blaenoriaethau Climate Cymru
(Tudalennau 65 - 70)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Climate Cymru at y Cadeirydd mewn perthynas â meysydd gwaith blaenoriaeth i'r Pwyllgor eu hystyried
4.4 Safle glo brig Ffos-y-Fran
(Tudalennau 71 - 72)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo at y Cadeirydd ynghylch gwaith glo brig Ffos-y-Fran (Saesneg yn unig)
4.5 Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
(Tudalen 73)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(12.15)
Cyfarfod preifat (12.15-13.00)
6 Bioamrywiaeth a’r argyfwng natur - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3
7 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
(Tudalennau 74 - 77)
Dogfennau atodol:
Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)
8 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru